Pweru Cymru Wyrddach: Croeso i wefan prosiect Parc Ynni Banc y Celyn.
Parc ynni arfaethedig yw Parc Ynni Banc y Celyn, tua 5km i'r de o Lanfair-ym-Muallt yn agos at aneddiadau Capel Uchaf, Gwenddwr, Crucadarn ac Erwyd yn ardal weinyddol Cyngor Sir Powys (PCC).
Bydd y parc ynni arfaethedig yn cyfuno tyrbinau gwynt, paneli solar a batris storio ynni er mwyn cynhyrchu ynni glân a chyfrannu at dargedau ynni adnewyddadwy uchelgeisiol Cymru.
Am fwy o fanylion, ewch i'r dudalen Gwybodaeth am y Prosiect.
Mae'n ddyddiau cynnar yn natblygiad y prosiect. Nod y wefan hon yw rhoi gwybod i chi am y cynlluniau ar gyfer y parc ynni. Mae'r wefan yn cynnwys tudalen Cwestiynau Cyffredin sy'n cael ei diweddaru'n rheolaidd i helpu i ateb ymholiadau cyffredin cyffredinol yn ogystal â chwestiynau penodol am Barc Ynni Banc y Celyn.
Y datblygwyr
Rhan o fenter ar y cyd rhwng Wind2 a chwmnïau sy'n cael eu rheoli gan Octopus Energy Generation yw Parc Ynni Banc y Celyn.
Datblygwr ynni adnewyddadwy arbenigol yw Wind2. Fe’i sefydlwyd yn 2016 gan Paula a Gerry Jewson, cyn-berchnogion a sylfaenwyr West Coast Energy. Mae gan y cwmni staff yn yr Wyddgrug, Caeredin, Wells, Perth a Cromarty, gydag arbenigedd sylweddol mewn ynni adnewyddadwy a hanes llwyddiannus o ddatblygu ffermydd gwynt ar y tir ledled y DU.
Octopus Energy Generation yw un o fuddsoddwyr mwyaf Ewrop mewn asedau ynni adnewyddadwy a phrosiectau trawsnewid i ynni adnewyddadwy. Mae’n rheoli 300 a mwy o brosiectau ynni gwyrdd ar raddfa fawr ar draws 13 o wledydd sy’n defnyddio technolegau gwahanol gan gynnwys ynni gwynt ar y tir, gwynt ar y môr ac ynni solar.
Am fwy o wybodaeth am Wind2, ewch i'r dudalen amdanom ni.