Amdanom ni
Datblygwr ynni adnewyddadwy arbenigol annibynnol yn y DU yw Wind2 Ltd, sy'n falch o fod yn rhan o'r newid i ynni glân. Mae cynhyrchu adnewyddadwy yn rhan o DNA Wind2 ac rydyn ni’n gwbl angerddol am yr hyn a wnawn.
Gyda'n prif swyddfa yn yr Wyddgrug, a swyddfeydd eraill yn yr Alban, a Lloegr, mae ein tîm o arbenigwyr ynni adnewyddadwy yn ymroi i helpu'r DU i ddileu ei dibyniaeth ar danwydd ffosil a chyflawni ei tharged sero net. O gam cynta'r prosiect i'w gyflawni, mae tîm Wind2 yn dod â gwybodaeth, arbenigedd a phrofiad helaeth i bob cam o ddatblygu ynni adnewyddadwy.
Mae Wind2, ynghyd â'i bartneriaid strategol, wedi ymrwymo i gyflawni prosiectau ynni adnewyddadwy sydd â buddion cymunedol wrth wraidd y cyfan.
Am fwy o wybodaeth, ewch i www.wind2.co.uk