Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Privacy Policy of Wind2
Polisi Preifatrwydd Wind2
Mae Wind2 yn gweithredu gwefan www.parcynnibancycelyn.cymru, sy'n darparu'r GWASANAETH.
Defnyddir y dudalen hon i hysbysu ymwelwyr â’r wefan am ein polisïau wrth gasglu, defnyddio a datgelu Gwybodaeth Bersonol os oes unrhyw un wedi penderfynu defnyddio ein Gwasanaeth, gwefan Wind2.
Os byddwch yn dewis defnyddio ein Gwasanaeth, yna rydych yn cytuno i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth mewn perthynas â'r polisi hwn. Mae'r wybodaeth bersonol a gasglwn yn cael ei defnyddio i ddarparu a gwella'r Gwasanaeth. Ni fyddwn yn defnyddio nac yn rhannu eich gwybodaeth gydag unrhyw un ac eithrio fel y disgrifir yn y Polisi Preifatrwydd hwn.
Mae i'r termau a ddefnyddir yn y Polisi Preifatrwydd hwn yr un ystyron ag yn ein Telerau ac Amodau, sydd ar gael yn wind2.co.uk, oni bai y diffinnir fel arall yn y Polisi Preifatrwydd hwn. Crëwyd ein Polisi Preifatrwydd gyda chymorth y templed Polisi Preifatrwydd a'r templed Telerau ac Amodau.
Casglu a Defnyddio Gwybodaeth
I gael profiad gwell wrth ddefnyddio ein Gwasanaeth, efallai y byddwn yn gofyn i chi roi gwybodaeth bersonol adnabyddadwy i ni, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i'ch enw, rhif ffôn, a'ch cyfeiriad post. Bydd y wybodaeth a gasglwn yn cael ei defnyddio i gysylltu â chi neu i'ch adnabod.
Data Log
Rydym am roi gwybod i chi, pryd bynnag y byddwch yn ymweld â'n Gwasanaeth, ein bod yn casglu gwybodaeth y mae eich porwr yn ei hanfon atom a elwir yn Ddata Log. Gall y Data Log hwn gynnwys gwybodaeth fel cyfeiriad Protocol Rhyngrwyd ("IP") eich cyfrifiadur, fersiwn porwr, tudalennau o'n Gwasanaeth yr ydych yn ymweld â nhw, amser a dyddiad eich ymweliad, yr amser a dreuliwyd ar y tudalennau hynny, ac ystadegau eraill.
Cwcis
Mae cwcis yn ffeiliau gyda swm bach o ddata sy'n cael eu defnyddio'n gyffredin fel dynodwr unigryw anhysbys. Mae'r rhain yn cael eu hanfon i’ch porwr o'r wefan yr ydych yn ymweld â hi ac yn cael eu storio ar yriant caled eich cyfrifiadur.
Mae ein gwefan yn defnyddio'r "cwcis" hyn i gasglu gwybodaeth ac i wella ein Gwasanaeth. Mae gennych yr opsiwn i naill ai dderbyn neu wrthod y cwcis hyn a gwybod pryd mae cwci yn cael ei anfon i'ch cyfrifiadur. Os byddwch yn dewis gwrthod ein cwcis, efallai na fyddwch yn gallu defnyddio rhai rhannau o'n Gwasanaeth.
Darparwyr y Gwasanaeth
Efallai y byddwn yn cyflogi cwmnïau ac unigolion trydydd parti am y rhesymau canlynol:
- I hwyluso ein Gwasanaeth;
- I ddarparu'r Gwasanaeth ar ein rhan;
- I gyflawni gwasanaethau sy'n gysylltiedig â'r Gwasanaeth; neu
- I'n helpu i ddadansoddi sut mae ein Gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio.
Rydym am roi gwybod i ddefnyddwyr y Gwasanaeth fod gan y trydydd partïon hyn fynediad at eich Gwybodaeth Bersonol. Y rheswm yw i gyflawni'r tasgau a neilltuwyd iddynt ar ein rhan. Fodd bynnag, mae rhwymedigaeth arnynt i beidio â datgelu na defnyddio'r wybodaeth at unrhyw ddiben arall.
Diogelwch
Rydym yn gwerthfawrogi eich ymddiriedaeth wrth ddarparu eich Gwybodaeth Bersonol i ni, felly rydym yn ymdrechu i ddefnyddio dulliau masnachol derbyniol o'i diogelu. Ond cofiwch nad oes unrhyw ddull o drosglwyddo dros y rhyngrwyd, na dull storio electronig, yn gwbl ddiogel a dibynadwy, ac ni allwn warantu ei ddiogelwch llwyr.
Cysylltiadau â gwefannau eraill
Gall ein Gwasanaeth gynnwys cysylltiadau â gwefannau eraill. Os ydych chi'n clicio ar ddolen trydydd parti, cewch eich cyfeirio at y wefan honno. Sylwch nad yw'r gwefannau allanol hyn yn cael eu gweithredu gennym ni. Felly, rydym yn eich cynghori'n gryf i adolygu Polisi Preifatrwydd y gwefannau hyn. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys, polisïau preifatrwydd nac arferion unrhyw wefannau neu wasanaethau trydydd parti.
Preifatrwydd Plant
Nid yw ein Gwasanaeth yn cyfeirio at unrhyw un o dan 13 oed. Nid ydym hyd y gwyddom yn casglu gwybodaeth bersonol adnabyddadwy gan blant dan 13 oed. Os ydym yn darganfod bod plentyn o dan 13 oed wedi darparu gwybodaeth bersonol i ni, rydym yn dileu’r wybodaeth ar unwaith o’n gweinyddion. Os ydych chi'n rhiant neu'n warcheidwad ac yn ymwybodol bod eich plentyn wedi rhoi gwybodaeth bersonol i ni, cysylltwch â ni er mwyn i ni allu cymryd y camau angenrheidiol.
Newidiadau i'r Polisi Preifatrwydd hwn
Efallai y byddwn yn diweddaru ein Polisi Preifatrwydd o bryd i'w gilydd. Felly, rydym yn eich cynghori i adolygu'r dudalen hon o bryd i'w gilydd am unrhyw newidiadau. Byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau trwy bostio'r Polisi Preifatrwydd newydd ar y dudalen hon. Mae'r newidiadau hyn yn dod i rym ar unwaith, ar ôl iddynt gael eu postio ar y dudalen hon.
Beth yw cwci?
Mae cwci yn ffeil fach sy'n cael ei gosod ar eich cyfrifiadur pan fyddwch chi'n ymweld â gwefan. Mae cwcis yn galluogi swyddogaethau ar wefan parcynnibancycelyn.cymru gan gynnwys:
- Nodi pryd y byddwch yn dychwelyd i'r wefan, er mwyn caniatáu i ni ymateb i chi fel unigolyn
- Dadansoddi gweithgarwch ar ein gwefan i roi profiad gwell i chi
Wrth ymweld â'n gwefan gallwch ddewis derbyn neu wrthod y cwcis sy'n cael eu defnyddio. Byddwch yn dal i allu defnyddio'r wefan os byddwch yn gwrthod ein defnydd o gwcis.
Pam rydym ni'n gosod cwcis?
Mae cwcis yn ein helpu i olrhain teithiau defnyddwyr. Mae hyn yn ein galluogi i ddarparu gwell profiad i chi ac yn caniatáu i Wind2 weinyddu tasgau ar y wefan.
Pan ganiateir hynny gan y gyfraith, efallai y byddwn yn cyfuno gwybodaeth a dderbyniwn o wefannau, rhaglenni/apiau symudol a ffynonellau eraill, gyda gwybodaeth a roddwch i ni a gwybodaeth a gasglwn amdanoch, gan gynnwys gwybodaeth cwcis. Ni fydd hyn yn eich adnabod chi.
Rydym wedi ymrwymo i barchu eich preifatrwydd. Gweler ein Polisi Preifatrwydd am fwy o wybodaeth am ein dulliau o gasglu a phrosesu data personol.
Efallai y byddwn hefyd yn storio gwybodaeth amdanoch gan ddefnyddio cwcis (ffeiliau a anfonir gennym i'ch cyfrifiadur neu ddyfais fynediad arall) y gallwn eu cyrchu pan fyddwch yn ymweld â'n gwefan yn y dyfodol. Rydym yn gwneud hyn i fonitro a gwella'r ffordd y caiff ein gwefan ei defnyddio a'i chadw'n ddiogel.
Os ydych chi am ddileu unrhyw gwcis sydd eisoes ar eich cyfrifiadur, cyfeiriwch at y cyfarwyddiadau ar gyfer eich meddalwedd rheoli ffeiliau i ddod o hyd i'r ffeil neu'r cyfeiriadur sy'n storio cwcis.
Pa gwcis ydyn ni'n eu gosod?
Rydym wedi rhestru isod y cwcis yr ydym yn eu defnyddio a'u pwrpas ac am faint maent yn para:
_ga
Darparwr: Google Analytics
Diben: Bydd Google yn defnyddio'r wybodaeth hon ar gyfer gwerthuso eich defnydd o'n gwefan, llunio adroddiadau ar weithgarwch y wefan a darparu gwasanaethau eraill sy'n ymwneud â gweithgarwch gwefan a defnydd o'r rhyngrwyd.
Para am: 26 mis
-gat
Darparwr: Google Analytics
Diben: Bydd Google yn defnyddio'r wybodaeth hon ar gyfer gwerthuso eich defnydd o'n gwefan, llunio adroddiadau ar weithgarwch y wefan a darparu gwasanaethau eraill sy'n ymwneud â gweithgarwch gwefan a defnydd o'r rhyngrwyd.
Para am: 26 mis
Unam
Darparwr: Google Analytics
Diben: Bydd Google yn defnyddio'r wybodaeth hon ar gyfer gwerthuso eich defnydd o'n gwefan, llunio adroddiadau ar weithgarwch y wefan a darparu gwasanaethau eraill sy'n ymwneud â gweithgarwch gwefan a defnydd o'r rhyngrwyd:
Para am: 26 mis
Bydd y wybodaeth a gynhyrchir gan gwcis Google Analytics am eich defnydd o'n gwefan (gan gynnwys eich cyfeiriad IP) yn cael ei throsglwyddo a'i storio gan Google ar weinyddion yn yr Unol Daleithiau.
wfvt_3141067722
Darparwr: Wordfence
Diben: Bydd Google yn defnyddio'r wybodaeth hon ar gyfer gwerthuso eich defnydd o'n gwefan, llunio adroddiadau ar weithgarwch y wefan a darparu gwasanaethau eraill sy'n ymwneud â gweithgarwch gwefan a defnydd o'r rhyngrwyd:
Para am: 26 mis
wordfence_verifiedHuman
Darparwr: WordPress
Mae hwn yn ategyn diogelwch ar gyfer system rheoli cynnwys ar gyfer y wefan
Diben: mae'n helpu i gadw'r wefan yn saff ac yn ddiogel. Mae cwcis yn cael eu defnyddio i sicrhau mai person, nid 'bot', yw’r ymwelydd ac i grwpio tudalennau yr ymwelwyd â nhw.
Para am: 26 mis
Mae mwy o wybodaeth am gwcis, gan gynnwys sut i'w rhwystro neu eu dileu, ar gael yn AboutCookies.org.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau am ein Polisi Preifatrwydd, mae croeso i chi gysylltu â ni.