E04 Ex V CYL 120 RSK August 23

Gwybodaeth am y Prosiect

Bydd y Parc Ynni Banc y Celyn sydd mewn golwg tua 5km i'r de o Lanfair-ym-Muallt, ger aneddiadau Capel Uchaf, Gwenddwr, Crucadarn ac Erwyd yn ardal weinyddol Cyngor Sir Powys. Mae ardal hyfforddiant y Weinyddiaeth Amddiffyn ym Mhontsenni i'r gorllewin o'r safle. Mae'r map isod yn dangos lleoliad a ffin y safle (mewn coch) yng nghyd-destun yr ardal gyfagos. Sylwch fod y llinell goch yn dynodi lleoliad y safle. I weld lleoliad y tyrbinau gwynt, y paneli solar a’r batris storio ynni, gweler cynllun y safle.


Y Cynnig

Nid yw'r safle Datblygu Arfaethedig wedi'i leoli o fewn un o'r Ardaloedd a Aseswyd Ymlaen Llaw a ddiffinnir yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol – Cymru'r Dyfodol: Cynllun Cenedlaethol 2040. Fodd bynnag, mae'r Cynllun Cenedlaethol yn dweud "Y tu hwnt i'r ardaloedd hyn ceir fframwaith polisi cadarnhaol, yn amodol ar bolisi 18.

O dan Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016, mae Banc y Celyn yn cyrraedd y trothwy i fod yn gymwys fel Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol. O 2019, mae trothwy Datblygiad Arwyddocâd Cenedlaethol ynghylch gorsafoedd cynhyrchu yn cynnwys pob prosiect cynhyrchu ynni dros 10MW. Felly, gyda chapasiti arfaethedig o tua 195MW allforio a 50MW mewnforio, mae'r prosiect arfaethedig yn cyrraedd y trothwy hwn.

Manylion y Prosiect

Mae cynnig Parc Ynni Banc y Celyn yn cynnwys hyd at 27 tyrbin gwynt gydag uchder blaen y llafn hyd at 200 metr gyda chapasiti cynhyrchu o tua 165MW, 30MW o baneli solar wedi'u gosod ar y ddaear a hyd at 50MW o fatris storio ynni.

Datblygwyd y cynllun cychwynnol gan dîm prosiect amlddisgyblaethol sy'n cynnwys meysydd technegol ac amgylcheddol. Cyn i'r cynigion gael eu cwblhau, bydd cynllun ac esblygiad y prosiect yn destun sawl cyfnod ymgynghori â'r cyhoedd, yn ogystal â rhanddeiliaid eraill fel yr awdurdodau lleol perthnasol a chyrff cyhoeddus.


Manteision y Prosiect

Rhagwelir y gallai Parc Ynni Banc y Celyn gynhyrchu tua 700,000 MWh o drydan bob blwyddyn, sy'n ddigon ar gyfer anghenion dros 215,000 o aelwydydd*.

Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol

Mae tîm y prosiect wrthi'n cynnal cyfres o arolygon ac asesiadau amgylcheddol ledled y safle ar hyn o bryd. Bydd y canlyniadau'n cael eu cynnwys yn yr Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol a phroses ddylunio’r parc ynni. Bydd yr arolygon sy'n deillio o hyn yn llywio'r cynllun terfynol sy'n taro cydbwysedd rhwng cynhyrchu cymaint â phosibl o ynni adnewyddadwy a sicrhau'r buddion cysylltiedig gorau posibl wrth osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau niweidiol.

*Cyfrifwyd gan ddefnyddio ystadegau diweddaraf DESNZ sy'n dangos mai 3,239kWh yw defnydd cartref cyfartalog blynyddol gwledydd Prydain (ym mis Ionawr 2024, wedi'i ddiweddaru'n flynyddol)

  1. Llywodraeth Cymru (2021). Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040. Fersiwn ar-lein yn: https://llyw.cymru/cymrur-dyfodol-y-cynllun-cenedlaethol-2040
  2. Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016. Ar gael ar-lein yn: https://www.legislation.gov.uk/cy/wsi/2016/53/contents/made/welsh