E01 Ex V CYL 120 RSK August 23

Budd Cymunedol a Rhanberchnogaeth

Cronfa budd cymunedol

Mae Wind2 ac Octopus Energy Generation wedi ymrwymo i sicrhau bod y cymunedau lleol yn elwa ar y parc ynni, a byddant yn darparu cronfa budd cymunedol benodol.

Fel rhan o'n cylch o ymgynghoriadau cyhoeddus a fydd yn dechrau cyn hir, byddwn yn gofyn am farn cymunedau lleol ar sut dylai’r gronfa gael ei rheoli, ei dosbarthu a’i defnyddio. Byddwn yn darparu rhagor o fanylion i’w trafod yn yr ymgynghoriadau cyhoeddus.

Rhanberchnogaeth gymunedol

Yn ogystal â chronfa budd cymunedol, hoffai Wind2 ac Octopus Energy Generation archwilio modelau posibl ar gyfer rhanberchnogaeth gymunedol rannol ar Barc Ynni Banc y Celyn, lle byddai'r cymunedau a'r unigolion lleol yn cael cyfle i fuddsoddi yn y prosiect.

Byddai amrywiaeth o strwythurau rhanberchnogaeth gymunedol yn cael eu hystyried mewn cydweithrediad â'r gymuned leol ac Ynni Cymunedol Cymru, sefydliad aelodaeth nid-er-elw sy'n darparu cymorth a llais i grwpiau cymunedol sy'n gweithio ar brosiectau ynni yma yng Nghymru.