Grŵp Cyswllt Cymunedol
Fel rhan o ymrwymiad Wind2 i'r gymuned leol, rydyn ni’n archwilio'r potensial i sefydlu Grŵp Cyswllt Cymunedol i hwyluso cyfathrebu agored a chydweithio ar y parc ynni adnewyddadwy sydd mewn golwg.
Bydd y grŵp hwn yn rhoi llwyfan i randdeiliaid ac unigolion lleol rannu adborth gwerthfawr ar gynigion y prosiect a chwarae rhan hanfodol wrth lunio cyfeiriad y gronfa budd cymunedol gysylltiedig. Bydd eich cyfraniad yn amhrisiadwy wrth sicrhau bod y prosiect yn cyd-fynd ag anghenion a blaenoriaethau'r cymunedau. Er bod y penderfyniadau terfynol ar addasiadau i'r prosiect yn dibynnu ar y datblygwyr, bydd eich adborth yn cael ei adolygu a'i ystyried yn ofalus.
Bydd y Grŵp Cyswllt Cymunedol yn cael ei hwyluso'n annibynnol i sicrhau tryloywder a niwtraliaeth. Cynhelir cyfarfodydd yn rheolaidd mewn lleoliad a ddewisir gan y grŵp, gan ddilyn agenda strwythuredig, a chofnodion yn cael eu cofnodi a'u dosbarthu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd cyfieithydd ar gael yn ystod y cyfarfodydd hefyd er mwyn cynnwys pawb. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dylanwadu ar ddyfodol y prosiect hwn a'r gronfa budd cymunedol, ewch ati i fynegi diddordeb mewn cymryd rhan.