Cwestiynau Cyffredin

Dyma restr o gwestiynau cyffredin. Byddwn yn ychwanegu atyn nhw wrth i ymholiadau ychwanegol godi ac wrth i'r prosiect fynd yn ei flaen yn ystod y broses ddatblygu.

C: A fydd staff llawn amser ar y safle ar ôl adeiladu'r Parc?
A: Er y bydd y Parc Ynni yn gweithredu fel ei fusnes ei hun gyda phersonél penodedig, mae’n annhebygol y bydd staff llawn amser ar y safle. Er hynny, bydd staff lleol ymweld â’r safle bob hyn a hyn i gadw llygad ar weithrediadau, diogelwch y safle, a gwneud gwaith cynnal a chadw parhaus.

C: Sut byddwch chi'n sicrhau bod y safle yn ddiogel? Os oes camerâu, sut byddan nhw’n cael eu defnyddio?
A:
Gan fod y cynigion yn dal i gael eu datblygu, nid ydym yn gwybod union fanylion y trefniadau diogelwch a gaiff eu defnyddio ar draws y safle eto. Mae'n fwyaf tebygol y bydd nifer o gamerâu diogelwch yn cael eu defnyddio i ddiogelu'r asedau solar, gan wynebu'n uniongyrchol tuag at yr elfennau hyn, ac nid oes bwriad eu defnyddio i ddal delweddau o'r tu allan i'r safle.

C: A fydda i'n derbyn gostyngiad ar fy mil trydan os ydw i'n byw'n ddigon agos at Barc Ynni Banc y Celyn?
A:
Gan ein bod ni yng nghamau cynnar y prosiect yw hwn, mae union fanylion unrhyw becyn budd cymunedol yn dal i gael eu datblygu. Mae enghreifftiau o becynnau o'r fath yn cynnwys rhai buddion lleol, fel gostyngiad mewn biliau ynni, ond nid ydyn ni mewn sefyllfa ar hyn o bryd i gadarnhau'r manylion. Byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth unwaith y bydd ar gael.

Fodd bynnag, rydyn ni’n disgwyl y bydd prosiectau ynni adnewyddadwy yn y tymor hir yn cael effaith gronnol dros amser o ostwng biliau ynni wrth i ni symud i ffwrdd o danwydd ffosil.

C: Os caiff ei gymeradwyo, faint fydd y datblygwr yn ei dderbyn mewn cymorthdaliadau a ariennir gan y llywodraeth?
A:
Er bod cymorthdaliadau wedi bod ar gael yn hanesyddol ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy, daeth y rhain i ben yn 2014. O'r herwydd, nid oes unrhyw gymorthdaliadau ar gael ar gyfer prosiectau o'r math hwn ar hyn o bryd.

C: Beth yw cyllid CfD, ac a fydd yn cael ei roi ar gyfer Parc Ynni Banc y Celyn?

A: Cyllid CfD (Contract ar gyfer Gwahaniaeth/Contract for Difference) yw prif fecanwaith llywodraeth y DU ar gyfer cefnogi datblygiad cynhyrchu trydan carbon isel.

Gall prosiectau ynni adnewyddadwy wneud cais drwy broses ocsiwn i gael cyllid CfD. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: https://www.gov.uk/government/collections/disability-confident-campaign.

Mae'n ddyddiau cynnar i'r prosiect o hyd, felly nid ydyn ni'n gwybod eto a fydd yn llwyddiannus wrth sicrhau cyllid CfD.

C: Beth yw uchder y tyrbinau gwynt arfaethedig a sut ydych chi'n penderfynu ar hyn?
A:
Byddai'r tyrbinau gwynt hyd at 200m i uchder blaen y llafn. Mae nifer o ystyriaethau wrth benderfynu ar uchder mwyaf priodol (uchder hwb ac uchder blaen y llafn) y tyrbinau gan gynnwys effeithiau ar y dirwedd, yr effaith ar fywyd gwyllt (yn enwedig adar), sŵn a’r cyflymder gwynt sydd ar gael.

Mae uchder y tyrbinau uwchben lefel y ddaear yn cael ei ddiffinio gan uchder yw ‘hwb' (y 'hwb' yw pwynt canolog y tyrbin lle mae'r llafnau'n cysylltu â’i gilydd), ynghyd â hyd y llafn.

Lle bo'n briodol, mae cynyddu uchder yr hwb a diamedr rotor y tyrbinau yn eu galluogi i fanteisio ar gyflymder gwynt gwell, cynnydd mewn effeithlonrwydd tyrbinau (h.y., bydd y tyrbin yn cynhyrchu mwy o ynni 'glân' dros ddiamedr rotor mwy) ac mae wedi dangos ei fod yn gostwng cost gyffredinol cynhyrchu ynni gwynt.

Er y gall ymddangos yn groes graen, mae tyrbinau talach yn aml yn fwy cost-effeithiol yn y tymor hir. Mae eu hallbwn ynni mwy yn golygu bod angen llai o dyrbinau i gyrraedd y targedau sero net. Hefyd, mae defnyddio tyrbinau talach ond llai ohonynt yn lleihau ôl troed cyffredinol y prosiect, sy'n helpu i liniaru unrhyw effaith bellach ar dirweddau lleol, cynefinoedd bywyd gwyllt ac ecosystemau.

C: Pam mae'r tyrbinau gwynt mor dal?
A:
Mae tyrbinau talach yn cynhyrchu llawer mwy o ynni na pheiriannau llai. Mae eu hallbwn ynni mwy yn golygu bod angen llai o dyrbinau i sicrhau'r allbwn mwyaf.

C: Faint o dyrbinau gwynt sy'n cael eu cynnig?
A:
Hyd at 27 o dyrbinau gwynt sy'n cael eu cynnig ar gyfer Parc Ynni Banc y Celyn ar hyn o bryd. Fodd bynnag, bydd y cynllun terfynol yn cael ei bennu gan gyfyngiadau technegol ac amgylcheddol y safle ac adborth gan Lywodraeth Cymru, ymgyngoreion statudol a chymunedau lleol.

C: A fydd goleuadau ar y tyrbinau gwynt?
A:
Mae'r Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) yn ei gwneud yn ofynnol i bob tyrbin sy'n dalach na 150m gael goleuadau hedfan coch gweladwy i sicrhau diogelwch awyrennau. O ganlyniad, bydd angen goleuadau hedfan ar rai tyrbinau gwynt Parc Ynni Banc y Celyn, er nad yw maint y goleuadau wedi'u pennu eto.

Byddwn yn cynnal asesiad goleuo min nos fel rhan o'r Asesiad o'r Effaith ar y Dirwedd a'r Effaith Weledol (LVIA) i ddeall yn llawn effeithiau posibl sy'n deillio o'r goleuadau ar y tyrbinau.

Bydd Wind2 yn cynnal ymgynghoriad llawn gyda'r awdurdodau perthnasol i gytuno ar y strategaeth goleuadau fel rhan o'r cais cynllunio.

C: Allan o beth mae tyrbin gwynt wedi’i wneud?
A:
Mae tyrbinau gwynt wedi'u gwneud o amrywiaeth o ddeunyddiau ond y prif rai yw dur, cyfansoddion gwydr ffeibr, ac aloeon arbenigol.

Mae dur yn cael ei ddefnyddio fel arfer i adeiladu'r tŵr, cydrannau’r gerbocs, a’r prif siafftiau oherwydd ei wydnwch a'i gadernid. Mae aloeon metel yn cael eu defnyddio ar gyfer cydrannau’r generadur ac amrywiol elfennau strwythurol.

Mae cyfansoddion gwydr ffeibr yn cael eu defnyddio’n bennaf ar gyfer llafnau tyrbinau gwynt i ddarparu gwydnwch a hyblygrwydd.

Mae’r deunyddiau hyn yn cael eu dewis i sicrhau gwydnwch ac effeithlonrwydd wrth ddal ynni gwynt a gwrthsefyll amodau amgylcheddol, ac er mwyn lleihau'r effeithiau ehangach ar yr amgylchedd gymaint â phosibl.

C: A oes modd ailgylchu llafnau tyrbinau gwynt?
A:
Mae tua 96% o dyrbin gwynt yn cael ei wneud o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu.

Mae llafnau tyrbin gwynt yn cael eu gwneud o ddeunyddiau gwahanol; ond y defnydd mwyaf cyffredin yw gwydr ffeibr i sicrhau cryfder a gwydnwch. Er bod y deunyddiau hyn yn gallu achosi heriau ailgylchu, mae'r diwydiant wedi ymrwymo i weithio tuag at atebion mwy cynaliadwy. Am fwy o wybodaeth am ailgylchu llafnau tyrbinau gwynt, ewch i: Can wind turbine blades be recycled? – National Grid 2023.

C: Ydy blaenymylon tyrbinau gwynt yn erydu?
A:
Ydy, mae blaenymylon llafnau tyrbinau gwynt yn gallu erydu dros amser oherwydd cyfuniad o ffactorau, gan gynnwys amodau amgylcheddol a grymoedd aerodynamig ar wyneb y llafnau. Mae ymchwilwyr o'r farn mai ychydig bach o iawn o erydiad sy’n digwydd oherwydd y mesurau sydd wedi'u cymryd i leihau hyn gymaint â phosibl.

Er mwyn lliniaru erydiad y blaenymylon, mae gweithgynhyrchwyr a gweithredwyr tyrbinau gwynt yn defnyddio sawl strategaeth fel archwiliadau a gwaith cynnal a chadw rheolaidd i asesu cyflwr y llafnau. Mae'r llafnau hefyd wedi'u gorchuddio â deunyddiau diogelu, megis paent diwenwyn gwrth-erydu, sy'n lleihau effaith ffactorau amgylcheddol ac yn ymestyn hyd oes y llafnau.

Mae rhagor o fanylion ar gael yma: https://www.shetnews.co.uk/2021/12/13/compelling-evidence-that-risk-of-pollution-from-wind-turbine-blades-is-negligible-says-viking/

C: Faint o wastraff o'r tyrbinau gwynt fydd yn cael ei olchi i'r pridd?
A:
Rydyn ni’n gwybod bod ychydig bach iawn o ddeunydd yn erydu o lafnau tyrbinau gwynt, ond wrth i dechnoleg esblygu, mae hyn yn parhau i gael ei leihau a'i liniaru.

Mae archwiliadau a gwaith cynnal a chadw rheolaidd a mesurau ataliol fel gorchuddio'r llafnau gyda phaent diwenwyn, gwrth-erydu i gyd yn cyfrannu at leihau faint o ddeunyddiau’r blaenymylon sy’n cael ei golli.

C: A fydd y tyrbinau gwynt arfaethedig yn achosi problemau i adar, ystlumod a phryfed?
A:
Bydd Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol cynhwysfawr yn cael ei lunio (gan ddefnyddio arbenigwyr annibynnol) a fydd yn cydymffurfio'n llawn â'r canllawiau manwl cyfredol a gynhyrchir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac ymgyngoreion statudol perthnasol eraill. Bydd yr arolygon hyn yn asesu presenoldeb ac ymddygiad y rhywogaethau bywyd gwyllt hyn, ymhlith eraill, gan gynnwys eu harferion nythu a chwilota, patrymau mudo, ac unrhyw ryngweithio posibl â'n tyrbinau gwynt arfaethedig.

C. Beth yw Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol?
A: Dyma ddisgrifiad byr o'r materion a'r broses y bydd Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol yn mynd i'r afael â nhw

Mae'r term Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol yn disgrifio gweithdrefn sy'n rhaid ei dilyn ar gyfer mathau penodol o brosiect cyn y gellir rhoi 'caniatâd cynllunio' iddynt. Mae'n ffordd o ddwyn ynghyd mewn ffordd systematig, asesiad o effeithiau arwyddocaol tebygol y prosiect ar yr amgylchedd. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod pwysigrwydd yr effeithiau a ragwelir a'r cwmpas ar gyfer osgoi, atal, lleihau neu, os yn bosibl, eu gwrthbwyso yn cael eu deall yn iawn gan y cyhoedd a'r awdurdod sy'n rhoi caniatâd (yr 'awdurdod penderfynu') cyn iddo wneud ei benderfyniad.

Prif amcan yr Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol yw gwerthuso'n drylwyr unrhyw effeithiau niweidiol posibl ar y fflora a'r ffawna a'r amgylchedd lleol a datblygu strategaethau i liniaru a lleihau'r effeithiau hyn. Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio ar y cyd â'n hymgynghorwyr amgylcheddol annibynnol, ymgyngoreion statudol, megis Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), awdurdodau lleol a grwpiau ymchwil i sicrhau bod bywyd gwyllt lleol yn cael ei ddiogelu a chynefinoedd yn cael eu gwella lle bo hynny'n bosibl.

C: Pa mor effeithlon yw tyrbinau gwynt?
A:
Mae effeithlonrwydd tyrbin gwynt yn gallu amrywio yn dibynnu ar sawl ffactor, gan gynnwys dyluniad y tyrbin, cyflymder y gwynt a'r gwaith cynnal a chadw.

Ar gyfartaledd, mae gan dyrbinau gwynt modern ar raddfa cyfleustodau ffactor capasiti o tua 25% i 45%. Mae hyn yn golygu eu bod yn cynhyrchu trydan ar eu capasiti graddedig am oddeutu chwarter i bron hanner yr amser.

C: Pwy fydd yn gweithgynhyrchu tyrbinau gwynt Parc Ynni Banc y Celyn a ble?
A:
Os cawn ni ganiatâd cynllunio, bydd Parc Ynni Banc y Celyn yn cynnal ymarfer caffael tyrbinau gydag amrywiaeth o wneuthurwyr tyrbinau i sicrhau bod y tyrbinau yn diwallu anghenion a nodau penodol y prosiect. Byddwn yn ystyried sawl ffactor yn ystod y broses hon, megis lleoliad y safle, yr offer sydd ar gael, cyfanswm allbwn pŵer, cost ac effaith amgylcheddol y prosiect.

Mae rhai o'r gwneuthurwyr tyrbinau y bydden ni fel arfer yn cysylltu â nhw yn ystod y broses hon yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) Vestas, Enercon, Nordex a Siemens Gamesa.

Bydd lleoliad y gweithgynhyrchu yn dibynnu ar ganlyniad yr ymarfer caffael ac argaeledd y tyrbinau gwynt yn unol â dyddiadau cau ein prosiect a'n dyddiad cyflwyno i’r grid. Byddai Wind2 yn gweithio i ddefnyddio cymaint â phosibl o elfennau o ffynonellau lleol i sicrhau’r manteision gorau posibl i'r gadwyn gyflenwi leol a chadwyn gyflenwi Cymru.

C: Pa mor gyflym mae tyrbinau gwynt yn troi?
A:
Gall y cyflymder y mae tyrbinau gwynt yn troi amrywio yn dibynnu ar eu dyluniad, eu maint ac amodau'r gwynt yn eu lleoliad.

Mae ystod nodweddiadol ar gyfer cyflymder cylchdroi'r llafnau ar dyrbin gwynt modern (ar raddfa cyfleustodau) rhwng 10 i 20 cylchdro y funud (RPM) dan amodau gweithredu arferol.

C: Ydy tyrbinau gwynt yn gwrthbwyso eu hôl troed carbon yn llwyr?
A:
Mae tyrbinau gwynt yn ffynhonnell ynni carbon isel i garbon niwtral wrth ystyried eu cylch bywyd llawn, o'r broses weithgynhyrchu i weithredu, o'i gymharu â chynhyrchu pŵer gan ddefnyddio tanwydd ffosil.

C: A oes modd ailgylchu paneli solar?
A:
Yn y rhan fwyaf o achosion, gellir ailgylchu hyd at 99% o banel solar. Mae prosesau sefydledig ar gyfer hyn yn y DU. Er enghraifft, mae gan gwmnïau fel PV Cycle UK seilwaith pwrpasol ac maen nhw'n gweithio'n agos gyda chynhyrchwyr i sicrhau eu bod nhw'n cydymffurfio â deddfwriaeth.

Gallwch ddysgu mwy am ailgylchu paneli a’r deunyddiau sy’n cael eu defnyddio yn Everything Under the Sun: The Facts about Solar.

C: Ydy'r paneli solar yn cynhyrchu unrhyw sŵn?
A:
Nid yw'r paneli eu hunain yn cynhyrchu unrhyw sŵn. Os yw paneli wedi'u gosod ar ffrâm dracio, yna mae'r motorau tracio yn allyrru rhywfaint o sŵn – nid yw'r union fanyleb wedi’i phenderfynu ar gyfer prosiect Parc Ynni Banc y Celyn eto.

Gall y seilwaith trydanol sy'n gysylltiedig â pharciau solar gynhyrchu sŵn. Bydd gwrthdroyddion a thrawsnewidyddion yn cael eu hasesu yn erbyn terfynau penodol fel rhan o'r cais cynllunio. Unwaith eto, nid yw'r sŵn a allyrrir gan y seilwaith hwn yn sylweddol ac mae'n hawdd ei liniaru trwy osod gwrthdroyddion i ffwrdd oddi wrth dderbynyddion sensitif i sŵn.

C: A fydd ychwanegu'r paneli solar yn effeithio ar lifogydd lleol?
A:
Fel arfer, nid yw gosod paneli solar yn cael bron unrhyw effaith ar lifogydd lleol. Mae paneli solar wedi'u cynllunio i gael eu gosod ar strwythurau a'u codi uwchben y ddaear, sy'n caniatáu i ddŵr lifo'n rhydd oddi tanynt. Hefyd, nid yw'r paneli solar eu hunain yn achosi i dŵr gronni nac yn amharu ar batrymau draenio naturiol.

Bydd asesiad Hydroleg neu Asesiad o Risg Llifogydd manwl yn cael ei gynnal fel rhan o'r cais cynllunio. Mae hyn yn aml yn cynnwys adolygiad astudiaeth desg o gyrsiau dŵr cyfagos a phrofi cyfraddau ymdreiddiad safleoedd. Os gwelir bod y cynllun yn cael effaith andwyol ar yr amgylchedd lleol, yna bydd mesurau lliniaru yn cael eu cyflwyno. Weithiau mae'r rhain yn cynnwys sianeli draenio neu addasu cynllun y safle.

C: Ydych chi'n defnyddio cemegau i lanhau paneli solar?
A:
Mae gweithgynhyrchwyr fel arfer yn cynghori yn erbyn defnyddio cemegau neu lanedyddion niweidiol i lanhau paneli solar. Mae dŵr wedi’i ddi-ïoneiddio yn ddewis cyffredin ac ecogyfeillgar ar gyfer glanhau paneli solar gan ei fod yn helpu i atal difrod ac yn lleihau cyflwyno cemegau i'r amgylchedd. Mae'r dull hwn yn cyd-fynd ag arferion gorau ar gyfer cynnal a chadw paneli solar a chynaliadwyedd amgylcheddol.

C: Ydy paneli solar yn cynhyrchu unrhyw lewyrch a golau llachar sy'n dallu?
A:
Mae paneli solar wedi'u cynllunio'n bennaf i amsugno golau er mwyn cynhyrchu ynni yn hytrach na'i adlewyrchu. Fodd bynnag, yn ystod y broses o wneud cais cynllunio, cynhelir asesiad o effeithiau posibl llewyrch a golau llachar sy’n dallu ('glint and glare') gan ystyried ardaloedd neu dderbynyddion sensitif cyfagos, gan gynnwys meysydd awyr. Mae'r asesiad hwn yn sicrhau bod unrhyw broblemau posibl yn cael eu hystyried a'u lliniaru'n drylwyr i atal tarfu neu beryglon diogelwch.

C: Ble fydd y paneli solar yn cael eu cynhyrchu?
A:
Mae paneli solar yn cael eu cynhyrchu mewn gwledydd gwahanol ledled y byd, gan gynnwys sawl gwlad Ewropeaidd, Tsieina, yr Unol Daleithiau ac India.

Mae'r dewis o leoliad gweithgynhyrchu yn aml yn dibynnu ar ffactorau fel cost-effeithlonrwydd, mynediad at ddeunyddiau, a galw'r farchnad.

Ni fydd paneli sy'n cynnwys sylweddau Per- a polyfflworoalcyl (PFAS) yn cael eu defnyddio i adeiladu elfen solar y prosiect. Bydd hyn yn cyfyngu ar yr effaith ar briddoedd a chyrsiau dŵr lleol. Bydd yr holl geblau sy'n gysylltiedig â'r paneli solar ffotofoltaidd yn cael eu gosod dan ddaear trwy ffosydd.

C: Beth sy'n digwydd os bydd panel solar yn torri? Oes rhaid newid y rhes gyfan?
A: Os yw panel solar yn torri, nid oes angen ailosod y rhes gyfan o reidrwydd. Mae paneli solar fel arfer wedi’u cysylltu mewn arae, fel eu bod yn gweithredu'n annibynnol. Os yw un panel mewn rhes wedi'i ddifrodi neu ddim yn gweithio, mae modd gosod un newydd yn unigol heb effeithio ar berfformiad y paneli eraill.

C: Ydy effeithlonrwydd y paneli yn gyson dros amser neu a fydd angen eu newid yn ystod oes y parc ynni?
A:
Mae effeithlonrwydd paneli solar fel arfer yn diraddio'n araf dros amser, ond nid oes angen eu newid yn ystod oes y parc ynni. Mae paneli solar wedi'u cynllunio i weithio am amser hir, yn amrywio o 25 i 30 mlynedd gan amlaf.

Mewn rhai achosion, os yw'r effeithlonrwydd yn dirywio'n sylweddol neu os oes amodau gwarant penodol, mae modd newid paneli unigol fel bo'r angen i sicrhau'r cynhyrchiant ynni gorau posibl.

Er mwyn cynnal perfformiad y parc ynni, bydd gwaith cynnal a chadw a monitro rheolaidd yn cael ei gynnal.

C: Pam mae angen batris storio ynni fel rhan o'r datblygiad hwn os yw'r ynni'n cael ei fwydo'n uniongyrchol i'r grid?
A:
Bydd batris ar y safle yn storio ynni glân i'w fwydo i'r grid yn ystod cyfnodau o alw brig. Mae hefyd yn helpu i sicrhau cyflenwad sefydlog a chyson o ynni ac yn sicrhau nad oes unrhyw ynni glân yn cael ei wastraffu.

C: Pa mor fawr yw'r unedau batris storio ynni?
A:
Er ei bod hi'n ddyddiau cynnar o ran union fanylebau’r batris storio, yn gyffredinol mae pob batri oddeutu 17m x 8m. Fel arfer, byddai 8 batri mewn dwy res o bedwar mewn uned 20MW. Bydd cynlluniau dangosol ar gyfer hyn yn cael eu darparu fel rhan o'r cais cynllunio i Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylcheddol Cymru (PEDW) a bydd rhagor o wybodaeth am y maint a'r fanyleb ar gael bryd hynny.

C: Ydy batris storio ynni yn peri risg o dân neu ffrwydrad?
A:
Fel gydag unrhyw ddyfais drydanol, mae risg fach iawn o dân yn gysylltiedig â gosod a gweithredu'r batris. Er mwyn rheoli a lliniaru'r risg fach hon, mae Rheoli Asedau Parc Ynni yn cynnwys asesiadau iechyd a diogelwch rheolaidd, gan gynnwys archwiliadau tân (fel arfer yn wythnosol, neu bob pythefnos). Bydd gwaith gosod priodol, archwiliadau rheolaidd, a chadw at ganllawiau Iechyd a Diogelwch yn helpu i leihau'r risg hon ymhellach. Byddai'r batris yn cael eu monitro a'u harchwilio'n barhaus i sicrhau nad oes perygl i ddiogelwch.

C: A fydd batris storio ynni yn cynhyrchu unrhyw sŵn?
A:
Yn gyffredinol, mae lefel isel o 'hymian' a grwnan yn deillio o'r cydrannau trydanol a'r gwyntyllau yn yr unedau storio, ond ystyrir bod y sŵn yn ddibwys a dim ond yn agos iawn at y batris y mae i’w glywed.